Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n polisi. Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a darganfod sut y gallwch chi newid gosodiad cwcis eich porwr
Skip to content
Cyfrannwch

Cyfeillgarwch dros y Nadolig

Rydyn ni wrth ein bodd bod Pugh's Garden Village yn mynd i weithio gyda ni dros y Nadolig er mwyn pwysleisio a mynd i'r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd ymhlith pobl hŷn yng Nghymru.

Bydd Pugh's Garden Village yn rhoi'r holl elw a wneir o'u Harth Nadolig casgladwy, neu eu llyfr 'Arth yn y Ffenestr', tuag at ein gwasanaeth cyfeillio dros y ffôn, Ffrind Mewn Angen. Byddant hefyd yn gofyn am roddion gan gwsmeriaid sy'n defnyddio eu gwasanaethau torri a rhwydo Nadolig.

Er mwyn dathlu lansiad y bartneriaeth, mae Pugh's yn gwahodd pobl hŷn sy'n elwa o'n gwasanaeth cyfeillio dros y ffôn, a rhai o'n gwirfoddolwyr gwych, i ymweld â'u canolfannau yng Ngwenfô a Radur am sgwrs, paned am ddim a mins peis, ac wrth gwrs, i gwrdd ag arth Pugh.

Bydd Pugh's hefyd yn gwahodd eu staff i ymuno â'n gwasanaeth Ffrind Mewn Angen. Mae hwn yn wasanaeth sy'n cynnig galwadau cyfeillgarwch i bobl hŷn sy'n byw ar eu pen eu hun gan wirfoddolwyr sy'n eu helpu i frwydro yn erbyn unigrwydd ac unigedd. Hoffech chi fod yn wirfoddolwr Ffrind Mewn Angen?

Mae'r arian sy'n cael ei godi gan ymgyrch y Nadolig yn hanfodol. Bydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr - mae angen help dros y Nadolig ar bobl hŷn ledled Cymru sy'n unig ac ynysig.

Pugh's Garden Village - Cydweithio er mwyn gwella ein cymunedau

Cychwynnwyd Pugh’s Garden Village yn 1954, ac erbyn heddiw mae wedi tyfu ac ehangu ar draws pedwar safle yn Ne Cymru. Mae teulu wrth wraidd y busnes ac mae llwyddiant Pugh's wedi cael ei ddatblygu ar hyd pedair cenhedlaeth. Cychwynnwyd y busnes mewn tyddyn yn Rhiwbeina, Caerdydd, ac mae wedi tyfu i fod yn ganolfan arddio sydd wedi gwasanaethu cenedlaethau o gwsmeriaid dros y 70 mlynedd diwethaf.

Teulu yw un o werthoedd craidd y cwmni, ac mae teulu Pugh wedi datblygu eu safleoedd er mwyn hybu rhyngweithio cymdeithasol a chryfhau cysylltiadau cymunedol trwy eu canolfannau garddio, bwytai a neuaddau bwyd, sydd fel hybiau cymdeithasol ar gyfer eu cymunedau lleol.

Sut gallwch chi gefnogi?

Os ydych chi'n medru, prynwch Arth Nadolig casgladwy wrth Pugh, neu lyfr 'Arth yn y Ffenestr'. Wrth wneud hyn, byddwch chi'n helpu Age Cymru a Pugh’s Garden Village i fynd i'r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd ymhlith pobl hŷn yng Nghymru.

Diolch o galon am eich cefnogaeth.

 

Last updated: Medi 17 2024

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top