Pwysigrwydd Eiriolaeth
Pwysigrwydd Eiriolaeth 8
Pwysigrwydd Eiriolaeth 8 yw'r adroddiad diweddaraf mewn cyfres o arolygon sydd yn cael eu cyhoeddi bob dwy flynedd. Cynhaliwyd yr adroddiadau gan Age Cymru.
Mae'n rhoi cipolwg ar ddarpariaeth eiriolaeth yng Nghymru ar gyfer oedolion, gyda phwyslais arbennig ar bobl hŷn. Mae'r adroddiad yn dangos cynnydd yn nifer yr eiriolwyr, pobl sydd yn derbyn cefnogaeth a nifer y gwasanaethau sy'n darparu cymorth eiriolaeth ledled Cymru dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
Mae Age Cymru yn arbennig o falch i nodi'r cynnydd yn nifer y darparwyr, gwasanaethau ac eiriolwyr arbenigol ar gyfer cefnogi pobl hŷn yn benodol.